Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 16 Medi 2020
Amser: 09.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Sarah Beasley
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddIechyd@senedd.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae'r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv.
Rhag-gyfarfod anffurfiol (09.00 - 09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(09.30)
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Chell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru
(09.30-11.30) (Tudalennau 1 - 19)
Dr Rob Orford, Cyd-Gadeirydd y Gell Cyngor Technegol a Phrif Gynghorydd Gwyddonol (Iechyd)
Fliss Bennee, Cyd-Gadeirydd y Gell Cyngor Technegol
Dr Heather Payne, Uwch-swyddog Meddygol ar gyfer Iechyd Mamau a Phlant
Dr Marion Lyons, Uwch-swyddog Meddygol
Briff ymchwil
3 Papurau i’w nodi
(11.30)
3.1 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor ar ei ymchwiliad i Ofalwyr fis Tachwedd diwethaf
(Tudalennau 20 - 33)
3.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22
(Tudalennau 34 - 36)
3.3 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 16 Gorffennaf 2020
(Tudalennau 37 - 40)
3.4 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 16 Gorffennaf 2020
(Tudalennau 41 - 48)
3.5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-966 Stopiwch yr Isafbris am Alcohol
(Tudalen 49)
3.6 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw
(Tudalen 50)
3.7 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw
(Tudalennau 51 - 52)
3.8 Gwybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd i helpu ag ymchwiliad y Pwyllgor i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
(Tudalennau 53 - 58)
3.9 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch darpariaeth gofal plant ar gyfer plant gweithwyr hanfodol sydd o oedran ysgol dros gyfnod yr haf
(Tudalennau 59 - 60)
3.10Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr amserlen i gael canlyniadau profion
(Tudalennau 61 - 62)
3.11Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr amserlen i gael canlyniadau profion
(Tudalennau 63 - 66)
3.12Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y cyhoeddiad ar warchod
(Tudalennau 67 - 68)
3.13Llythyr gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru yn dilyn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor gyda’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.
(Tudalennau 69 - 70)
3.14Llythyr gan Dr Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru mewn ymateb i'r llythyr gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru
(Tudalennau 71 - 73)
3.15Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Adroddiad Holden
(Tudalen 74)
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
(11.30)
5 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
(11.30-11.45)
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
(11.45-12.10) (Tudalennau 75 - 90)
Papur 16 – Ystyriaeth o'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol
7 COVID-19: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar ei ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
(12.10-12.30) (Tudalennau 91 - 128)
Papur 17 - Ymateb Llywodraeth Cymru